Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2020
Amser:
09.03 -
10.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5908
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Neil McEvoy AC Jack Sargeant AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd Llysgenhadon Lles Ysgol Dŵr y Felin i roi tystiolaeth bellach ar eu rôl, naill ai trwy gyfarfod â’r Pwyllgor neu ddarparu hyn ar ffilm.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i rannu’r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebydd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a gofyn am ei hymateb i’r pwyntiau ychwanegol a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am eglurhad ar y gwaith o fonitro gweithrediad y canllawiau a gofyn iddynt sicrhau yr ymgynghorir â’r deisebydd a phobl eraill sydd â phrofiad byw wrth adolygu’r dull ar gyfer alergeddau ac imiwnoleg o safbwynt iechyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig bod swyddogion y Gweinidog yn cwrdd â’r deisebydd i drafod y cymorth presennol i blant ag alergeddau mewn ysgolion.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos nad oes llawer mwy y gall y ddeiseb ei gyflawni yn sgil y ffaith bod y Rheoliadau wedi’u gweithredu’n ddiweddar a’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog mai pwrpas yr adolygiad fydd ceisio canfod ffyrdd i’w cryfhau.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth y deisebwyr ac wedi cyflogi’r prif ddeisebydd yn y gorffennol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Cafcass Cymru i ofyn am eu hymateb i’r cynigion ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu canllawiau Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant, gan gynnwys y dangosyddion a awgrymir, a wnaed gan y deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am awgrymiadau ar gyfer unrhyw ffynonellau gwybodaeth neu dystiolaeth bellach, yn sgil penderfyniad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i beidio ag argymell sgrinio poblogaeth systematig ar gyfer cyflyrau cardiaidd sy’n gysylltiedig â SCD yn yr ifanc yn dilyn adolygiad diweddar o dystiolaeth.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch sut y caiff y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei werthuso. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau’r ddeiseb yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu swydd Comisiynydd Anabledd Dysgu ar hyn o bryd, a bod y deisebwyr wedi derbyn hyn yn flaenorol.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i’r gwaith i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol yn 2019 ac i ofyn beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog cyllid i ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i waith Llywodraeth y DU i weithredu treth ar becynnau plastig, ac opsiynau trethi penodol sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd i Gymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig defnydd sengl, a chydnabod yr amserlenni sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad o’r fath.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor am y camau sy’n cael eu cymryd i leihau neu ddileu’r defnydd o wellt plastig a bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig untro yn y dyfodol, a’r amgylchiadau mewn perthynas â chyfyngu ar eu defnydd mewn ysgolion drwy drefniadau lleol a chontractau caffael.
Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch Senedd Ysgol y Wern ar eu defnydd o’r broses ddeisebu a diolch i’r ysgol a’r disgyblion am eu hymgysylltiad trwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
· barhau i gadw golwg craff ar y mater a gofyn am ddiweddariad pellach ar ôl i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried opsiynau, a ragwelir fydd yn gynnar yn 2020; ac
· aros am gael barn y deisebwyr am y sefyllfa bresennol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i rannu pryderon y deisebwyr a gofyn iddi ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan y deisebwyr yn eu gohebiaeth ddiweddaraf, a hefyd rhannu’r ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am eu hymatebion i’r materion sy'n berthnasol iddynt.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad presennol ar y Cynllun Aer Glân drafft ar gyfer Cymru ac unrhyw newidiadau neu welliannau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud o ganlyniad, cyn trafod y ddeiseb eto.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Cadw i ofyn am fanylion am unrhyw amddiffyniadau a roddir i goed hynafol fel ywen yng Nghymru, neu unrhyw gynlluniau y gellid eu defnyddio at y diben hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ganlyniadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, Cymwys ar gyfer y Dyfodol, a thrafod y ddeiseb eto bryd hynny.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad o’i ystyriaeth o’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi dangos parodrwydd i ymyrryd o’r blaen mewn sefyllfaoedd lle mae pryderon nad yw awdurdodau lleol wedi dilyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, ac oherwydd ei bod yn ymddangos nad oes llawer o arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno proses apelio yn erbyn cau ysgolion ar hyn o bryd. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb pellach ar fater dynodi’r cyrsiau penodol yn Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhai sy’n gymwys i gael cyllid, fel dewis arall yn lle gwneud newidiadau ehangach i’r Rheoliadau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am gyfnod byr i gael barn bellach gan y deisebydd, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos nad oes llawer mwy y gallai’r ddeiseb ei chyflawni yn sgil y wybodaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail bod y Gweinidog Addysg wedi darparu ei rhesymeg dros ddarparu asesiadau safonol i fesur gallu plant mewn llythrennedd a rhifedd gan ddechrau o Flwyddyn 2, ac yn sgil y ffaith bod asesiadau personol ar-lein newydd wrthi’n cael eu cyflwyno.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg, gan nodi y bydd ysgolion yn gallu penderfynu pa ‘ieithoedd rhyngwladol’ sydd fwyaf priodol i’w hamgylchiadau penodol o dan y cwricwlwm newydd, a gofyn pa gyfleoedd fyddai yna i Lywodraeth Cymru (neu eraill) annog neu gefnogi darpariaeth fwy anffurfiol o Makaton mewn ystafelloedd dosbarth, er enghraifft drwy ddysgu arwydd dyddiol.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am farn y deisebwyr gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb yn sgil bwriad y Pwyllgor Safonau i wneud gwaith pellach ar y mater hwn a nodi cynnig ar gyfer y chweched Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros i ganlyniadau monitro pellach gael eu cyhoeddi ar y terfyn cyflymder 50mya rhwng cyffyrdd 41 a 42, a datblygu Mesurau Cadw Rhagofal ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ym mis Mawrth 2020.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
· aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth a ddarparwyd, a
· chadw golwg manwl ar unrhyw ddatblygiadau pellach ar y pwnc hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
· ofyn i’w swyddogion ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebwyr ar y pwyntiau y maent yn eu codi mewn perthynas â manylion hyfforddiant ac arweiniad proffesiynol, a sut y gall gwasanaethau adlewyrchu anghenion pobl hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn well; a
· gofyn pa gyfran o’r cyllid sy’n cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau allgymorth, y gall pobl hŷn eu cyrchu, ac a yw’r gwasanaethau hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i ohebiaeth ddiweddar y mae wedi’i hysgrifennu mewn perthynas â chynyddu’r ddarpariaeth o doiledau lleoedd newid, cyn ystyried ymhellach sut y gall polisïau cynllunio ymdrechu i wella’r ystod o gyfleusterau toiledau sydd ar gael.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag awgrym bod arwyddion ar sail rhyw yn y Senedd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am friff cyfreithiol ar y cwestiwn a oes angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflawni’r newidiadau a geisir gan y deisebwyr; ac yn dilyn hynny, ysgrifennu eto at Lywodraeth Cymru i wneud cynigion perthnasol ar sut i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys drafft llythyr mewn ymateb i gais am wybodaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.